P-03-261 Atebion Lleol i Dagfeydd Traffig yn y Drenewydd

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ohirio penderfyniad ynglŷn â’r ffordd osgoi arfaethedig yn y Drenewydd nes ei bod wedi datblygu a threialu cyfres o fesurau cynaliadwy yn y dref ei hun i fynd i’r afael â thagfeydd traffig.

Cynigwyd gan:Gary Saady

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Ionawr 2010

 

Nifer y llofnodion: 37

 

Gwybodaeth ategol:

Mae dwy ran o dair o’r traffig ar goridor yr A483/A489 yn draffig lleol.

Dylai’r mesurau i fynd i’r afael â thagfeydd traffig ar yr A483/A489 gynnwys y rheini a gynlluniwyd i wneud defnydd gwell o’r ffyrdd, megis:

·         mesurau rheoli traffig i leihau symudiadau sy’n gwrthdaro ar gyffyrdd

·         lonydd pwrpasol ar Ffordd y Pwll a Ffordd Llanidloes ar gyfer cerbydau sy’n troi i’r dde i fynd i safleoedd diwydiannol neu fanwerthu

·         cydgysylltu goleuadau traffig

Dylent hefyd gynnwys mesurau sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo dulliau amgen o deithio, megis:

·         rhwydwaith fysiau newydd ar gyfer y dref, a fyddai’n galw heibio i’r archfarchnadoedd a’r ystadau diwydiannol, gan osgoi’r A483/A489, lle bo hynny’n bosibl

·         gwasanaeth bws bob 15 munud i’r dref

·         llwybr troed ar draws Afon Hafren, i’w gysylltu â’r llwybr ar hyd afon Llanllwchaearn i Ffordd y Pwll

·         hyrwyddo seiclo a cherdded

Rydym yn cydnabod bod problem yn bodoli ar hyn o bryd sy’n cael ei hachosi gan gerbydau uchel sy’n gyrru drwy ardaloedd preswyl er mwyn osgoi’r pontydd rheilffordd isel ar Ffordd Dolfor a Ffordd Llanidloes. Ond gellir datrys hynny drwy weithredu’r mesurau a ganlyn:

·         codi uchder y bont reilffordd ar Ffordd Llanidloes

·         adeiladu ffordd gyswllt o Ffordd Dolfor i Heol Ashley ar ystâd ddiwydiannol Mochdre